Digwyddiadau

Ysgrifennwch Yma, Ysgrifennwch Nawr: Meistroli Ysgrifennu Academaidd mewn Addysg Bellach

Dydd Iau, 27 Mehefin 2024 | Coleg Caerdydd a'r Fro, Heol Dumballs, Caerdydd CF10 5BF


Ydych chi’n ddarparwr Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru neu’n ddarparwr Cymhwyster Prosiect Estynedig?

Ydych chi am ymgorffori ysgrifennu academaidd yn eich rhaglen alwedigaethol?

Ydych chi’n ymarferydd sydd am uwchsgilio yn eich darpariaeth academaidd eich hun?

Cofrestrwch i ymuno â ni ar gyfer ein gweithdy datblygiad proffesiynol Ysgrifennwch Yma, Ysgrifennwch Nawr: Meistroli Ysgrifennu Academaidd mewn Addysg Bellach ddydd Iau 27 Mehefin 2024 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

Mae lleoedd wedi’u cyfyngu i 3 cynrychiolydd ym mhob coleg ar sail y cyntaf i’r felin, felly cofrestrwch cyn gynted â phosibl. Mae cofrestriadau’n cau ddydd Gwener 14 Mehefin 2024.

Amlinelliad o’r diwrnod

  • 9:30am
    Cyrraedd
  • 10:00am
    Croeso a chyflwyniad
  • 10:30am
    Ysgrifennu ar draws y disgyblaethau
  • 11:30am
    Ar y llwybr ysgrifennu: Ymchwil a methodoleg
  • 12:30pm
    Cinio
  • 12:15am
    Darllen academaidd: Sgimio, sganio, syntheseiddio
  • 1:15pm
    Perffeithio adolygiad cymheiriaid
  • 3:15pm
    Casgliad, cwestiynau ac adborth

Mae’r gweithdai ar y diwrnod wedi’u cynllunio ar gyfer ymarferwyr, a gellir eu haddasu ar gyfer pob disgyblaeth, cymhwyster a lefel.

Cliciwch yma i gofrestru diddordeb ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn

Cliciwch yma

Meet the participants